Mae’n bleser gan Richard Newton Consulting ein nod yn rheoli rhaglen hyfforddi codi arian newydd yng Nghymru ar ran y Chartered Institute of Fundraising.
Mewn ymateb i Covid-19 rydym wedi dyfeisio cynllun ymatebol seiliedig ar faterion penodol i helpu elusennau yng Nghymru i fynd i’r afael â mater penodol y maent yn teimlo nad oes ganddynt y gallu codi arian proffesiynol i ddelio ag e.
Rydym yn chwilio am godwyr arian proffesiynol i ymuno a’n tîm hyfforddi i gymryd rhan yn Rhaglen Hyfforddi Ymateb i Covid The Chartered Institute of Fundraising, gaiff ei lansio ym mis Medi 2020.
Unwaith ichi gael eich penodi, cewch eich paru gydag elusen yn unol â’ch profiad a’ch diddordeb i gynnig hyd at bum awr o gefnogaeth ar fater penodol – er enghraifft, cais i ymddiriedolaeth, creu negeseuon ar gyfer ymgyrch neu ddelio gyda chyfathrebiadau gyda chyfrannwr sy’n bodoli eisoes. Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn ariannu ar gyfer y prosiect hwn sy’n golygu y caiff pob un o’n hyfforddwyr eu talu – am bob elusen y byddwch yn gweithio gyda hi byddwch yn derbyn ffi o £50 yr awr am fwyafswm o bum awr.
Cynhelir yr holl gefnogaeth o hirbell yn unol â phrotocolau ymbellhau cymdeithasol dros y ffôn, trwy e-bost a chynadledda digidol.
Os ydych chi’n teimlo y gallech chi ein helpu ni i helpu’r elusennau hyn i ail ennill eu plwyf, cysylltwch gyda [email protected] neu galwch 07887 944278.
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cymorth ariannol oddi wrth:
Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru
The Moondance Foundation