Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) a VCSE

Cwblhewch ein harolwg ar-lein yma

Hoffem eich gwahodd i fynychu grŵp ffocws i drafod ymhellach fersiwn ddrafft o Fframwaith Strategaeth VCSE ar gyfer Caerdydd. Mae’r grwpiau ffocws ar gael i’w harchebu trwy EventBrite a byddem yn falch iawn pe gallech chi neu un o’ch cydweithwyr fynychu:

Dydd Llun 23ain Mai 12:00 – 13:30 – Dros Zoom

Dydd Mawrth 24ain Mai 11:00 – 12:30 – Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon

Dydd Mawrth 24ain Mai 15:00 – 16:30 – Prosiect Ieuenctid a Chymunedol Cathays a Chanol y Ddinas

Dydd Mercher 25ain Mai 18:00 – 19:30 – Dros Zoom

Dydd Mawrth 31ain Mai 10:30 – 12:00 – Dros Zoom 

Dydd Gwener 10fed Mehefin 10:30 – 12:00 – Canolfan Gymenudol Butetown

Os na allwch fynychu’r grŵp ffocws ond yr hoffech gynnig adborth, bydd gennym holiadur adborth neu byddem yn fwy na pharod i gael sgwrs un-i-un strwythuredig er mwyn archwilio eich meddyliau’n fanylach. Cysyllter â [email protected] i drefnu sgwrs.

Er bod gwirfoddolwyr yn gweithio am ddim dydi hyn ddim yn golygu nad oes gwerth i’w hamser. Fel diolch am eich amser hoffem gynnig cyfle i’r cyfranogwyr yn ein grwpiau ffocws i ddod i weithdy codi arian / sesiwn holi ac ateb am ddim gyda’n tîm o arbenigwyr codi arian er mwyn helpu eich sefydliad i gyflawni ei nodau. Cynhelir y gweithdy dros Zoom. Fe roddwn fanylion y gweithdy ichi yn y grŵp ffocws.

Mae Cyngor Trydydd Sector Caerdydd wedi comisiynu Richard Newton Consulting i gynorthwyo gyda datblygu Strategaeth Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol a Chymdeithasol, sydd i’w chyd-gynhyrchu gyda chyfranogaeth gan amrediad eang y sector sy’n gweithredu yng Nghaerdydd. Bwriedir i’r Strategaeth gryfhau rôl y sector MGCCh wrth ddarparu datrysiadau i heriau’r Ddinas a chefnogi trafodaethau i’r dyfodol ynghylch sut a pham y dylai’r sector cyhoeddus weithio gydag a buddsoddi yn y sector.

Rydym am i’r strategaeth fod yn berchen i sector gwirfoddol Caerdydd, a sicrhau bod pob un o sefydliadau’r sector gwirfoddol (yn cynnwys grwpiau heb eu cofrestru, mentrau cymdeithasol, SBC, CBC, elusennau a grwpiau perthnasol eraill) yn cael cyfle llawn i gyfranogi.

Fe edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!


Cyfeiriadau:

A Thriving Third Sector in Cardiff: the case for a Voluntary, Community and Social Enterprise Sector Strategy 

Mae’n cael ei dderbyn yn gynyddol bod cymorth mewn cymunedau lleol yn chwarae rôl bwysig wrth wella iechyd a lles unigolyn a buddion i’r gymuned ehangach sy’n deillio o’r canlyniadau hyn.

Community-centred public health: Taking a whole-system approach (publishing.service.gov.uk) Gall gweithio effeithiol ar sail lleoedd ar draws sectorau ac mewn partneriaeth â chymunedau wella canlyniadau iechyd a bodloni blaenoriaethau lleol eraill.

Mae deddfwriaeth allweddol yng Nghymru hefyd yn cyfeirio at yr angen i sicrhau gwydnwch cymunedol er mwyn grymuso pobl i gymryd camau cadarnhaol tuag at ofal a lles personol, osgoi sefyllfaoedd o argyfwng ac, yn ei dro, lleihau’r galw am wasanaethau cyhoeddus. 

Social-services-and-well-being-wales-act-2014-the-essentials.pdf (gov.wales) Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n rhwymedigaeth ar awdurdodau lleol, byrddau iechyd a Gweinidogion Cymru iddynt weithio i hyrwyddo lles y bobl hynny y mae angen gofal a chymorth arnyn nhw, neu ofalwyr y mae angen cymorth arnynt. 

Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 – The Future Generations Commissioner for Wales Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gwneud hi’n ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddal am effaith hir dymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

Yn ystod y pandemig, ailgadarnhaodd y sector ei gryfder a’i werth wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau, gwella lles a diwallu anghenion mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y person.

The community response to coronavirus (COVID-19) – UK Health Security Agency (blog.gov.uk) Mae’r blog yn trafod rolau a gweithgareddau cymunedau yn dilyn dyfodiad COVID-19 a’u gwydnwch yn wyneb yr heriau newydd mae’r pandemig hwn yn eu hachosi.

Emerging-Vulnerabilities-report-2-002.pdf (wcva.cymru) Achosion bod yn agored i anghydraddoldeb iechyd sy’n dod i’r amlwg yng nghyd-destun COVID-19; Safbwyntiau ac ymateb gan y Sector Gwirfoddol a Chymunedol yng Nghymru

The-Community-Paradigm_EXEC-SUMMARY.pdf (newlocal.org.uk) Mae galwadau am fodel lleol newydd o ddarpariaeth gwasanaeth cyhoeddus ar sail y gwahaniaeth a wnaeth y Sector VCSE (Gwirfoddol, Cymunedol a Menter Gymdeithasol) yn ystod y pandemig – un sy’n fwy cydweithredol ac sy’n rhoi cynllunio a chyflwyno gwasanaethau cyhoeddus yn nwylo’r gymuned maent yn eu gwasanaethau.

Building stronger welsh communities consultation Mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys gwerth cydweithio traws-sector ar adeg argyfwng, y datgysylltiad rhwng cyrff cyhoeddus a chymunedau fel rhwystr i weithredu cymunedol a’r angen am weledigaeth a strategaeth gadarnhaol i Gymru.

Gan weithio ar y cyd, fel sector a phartner pwysig, i ddatblygu, llywio a chyd-gyflwyno’, caiff yr amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau ar draws sectorau sy’n ymateb i anghenion lleol, ei gryfhau drwy gael set glir y cytunwyd arni o ddisgwyliadau am sut y byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd mewn gwir bartneriaeth gydweithredol i gael y gorau ar gyfer ein cymunedau ac o ymagweddau sy’n fwy cydlynus. 

Local Authority Funding of Third Sector Services | Audit Wales Mae’r adroddiad hwn yn archwilio effeithiolrwydd trefniadau’r awdurdodau lleol ar gyfer cyllido gwasanaethau’r trydydd sector. Mae’r adroddiad hwn yn dod i’r casgliad nad yw awdurdodau lleol bob amser yn defnyddio’r trydydd sector fel y gallant neu nad ydynt yn gwneud digon i sicrhau eu bod nhw’n sicrhau gwerth am arian.

Different-Futures-Wales-final-report.pdf (wcva.cymru)amlygu pwysigrwydd y sector VCSE wrth ymateb yn brydlon i argyfwng, gan fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.