News

Arolwg Cymunedol Storiel

Mae Gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau Cyngor Gwynedd yn cynnal adolygiad busnes o Storiel er mwyn cefnogi ei ddatblygiad a’i gynaliadwyedd yn y dyfodol. Mae Richard Newton Consulting yn ymgymryd â’r gwaith hwn ar ran Cyngor Gwynedd. 

Cynlluniwyd yr holiadur hwn i gasglu ymwybyddiaeth o Storiel, i archwilio sut y caiff ei weld a sut y defnyddir y lle.  Mae ar gyfer y rhai sydd wedi ac nad ydynt wedi ymweld a’r safle o’r blaen, gan roi cyfle i bawb gael llais wrth helpu Cyngor Gwynedd ddatblygu Storiel fel gofod hawdd ei ddefnyddio sy’n rhan hanfodol o’r gymuned ac o arwyddocâd cenedlaethol.   

Mae’r holl ymatebion yn gyfrinachol. 

Os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch â [email protected] Mae croeso i chi rannu’r arolwg.

Llenwch yr arolwg erbyn 5pm ar 26 Mawrth 2021  

https://arolwg.gwynedd.llyw.cymru/index.php/533557?lang=cy

Diolch am gymryd rhan.  

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru