News

Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru – Gweminarau Lefelau Staff Nyrsio 2020

Gosododd Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ddyletswydd gyfreithiol ar Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG i ystyried pwysigrwydd sicrhau lefelau priodol o staff nyrsio ym mhob lleoliad. Gosododd Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ddyletswydd benodol ar leoliadau gwasanaethau llawfeddygol a meddygol acíwt i oedolion i gyfrifo a chynnal lefelau nyrsio diogel, yn unol â methodoleg benodedig.

Dangosodd gwaith ymchwil bod lefelau staff nyrsio isel yn arwain at gynnydd o 26% yn y cyfraddau marwolaeth o’i gymharu â wardiau lle mae lefelau staffio gwell.  Mae Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn gwarchod ac atgyfnerthu cleifion trwy: leihau hyd arosiadau cleifion mewnol trwy leihau achosion o lithro, baglu a chwympo; lleihau heintiau a briwiau; a lleihau marwolaethau.

Mae Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru’n ymgyrchu i:

  • Ehangu Adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gwmpasu wardiau plant ac iechyd meddwl cleifion mewnol, cartrefi gofal a’r gymuned.
  • Cynyddu’r nifer o leoedd i fyfyrwyr nyrsio a gomisiynir ym mhob un o’r meysydd nyrsio

Ceir mwy o wybodaeth ar wefan y Coleg Nyrsio Brenhinol am yr Ymgyrch Gofal Diogel ac Effeithiol, gwasgwch yma.

Mae gennym ddiddordeb clywed barn a phrofiadau eich sefydliad chi a byddem yn falch pe gallech ymuno â ni ar gyfer gweminar.

This for organisations, charities and not-for-profit – other than NHS – working in the health sector.

DyddiadAmserGrŵpDolen
Dydd Llun 28ainMedi 13.30 – 16.00Sefydliadau Cenedlaetholhttps://www.eventbrite.co.uk/e/sefydliadau-cenedlaethol-tickets-120364243693  
Dydd Iau 1afHydref9.30 – 12.00Sefydliadau llawr gwlad a lleol Gogledd Cymru, byddwn hefyd yn archwilio materion sy’n berthnasol i’r Gymraeghttps://www.eventbrite.co.uk/e/coleg-nyrsio-brenhinol-cymru-gweminarau-lefelau-staff-nyrsio-2020-tickets-120198640369 
Dydd Iau 1afHydref13.30 – 16.00Sefydliadau llawr gwlad a lleol De Cymru https://www.eventbrite.co.uk/e/south-wales-grassroots-and-local-organisations-tickets-120178153091
Dydd Gwener 2il Hydref9.30 – 12.00Sefydliadau Iechyd Meddwl https://www.eventbrite.co.uk/e/mental-health-organisations-tickets-120178947467
Dydd Llun 5ain   Hydref13.30 – 16.00Mudiadau gofalwyr https://www.eventbrite.co.uk/e/carers-organisations-tickets-120179683669