News

Cyngor Sir Caerfyrddin – Arolwg CAVS

Mae Cyngor Sir Gâr (CSG) a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CGGSG) yn rhannu’r awydd i ddatblygu a thyfu’r trydydd sector yn y Sir trwy weithio mewn partneriaeth i drosglwyddo gwasanaethau ymarferol ar gyfer cymunedau yn Sir Gaerfyrddin sydd eu hangen.

Mae’r sector gwirfoddol a chymunedol wedi bod yn hanfodol wrth gynnull gwirfoddolwyr ac ateb anghenion lleol yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, fel llawer o adrannau eraill o gymdeithas, mae sefydliadau’r trydydd sector yn wynebu ansicrwydd digyffelyb oherwydd effaith uniongyrchol a thymor hirach COVID-19. 

Mae’r pandemig wedi achosi llu o wahanol heriau ond mae hefyd wedi creu cyfleoedd i wneud pethau’n wahanol ac felly, rydym am adolygu’r trefniadau ar gyfer trosglwyddo gwasanaethau’n lleol wrth gefnogi’r sector i drosglwyddo ar ôl COVID-19. 

SUT ALLWCH CHI HELPU

A fyddech cystal â chwblhau’r arolwg hwn er mwyn cyfrannu at ddatblygiad y gwaith yma? Os felly, a fyddech cystal â chwblhau’r arolwg erbyn 7 fed Mehefin 2021

Ceir dolen i’r arolwg yma:

CAVS Survey

http://ow.ly/xVxF50ES4CW (Welsh)

http://ow.ly/Fpeg50ES4E1 (English)

Diolch yn fawr