News

Arolwg Incwm Sector Gwirfoddol WCVA

Rydym yn trosglwyddo prosiect ymchwil ar ran CGGC i’w cynorthwyo i ddatblygu darlun cynrychiadol manylach o’r mathau a’r lefelau o wahanol ffrydiau incwm gaiff eu defnyddio gan sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, prin yw’r wybodaeth sydd gan CGGC am ba ffrydiau incwm sydd gan elusennau a sefydliadau gwirfoddol Cymreig, a’r rhai y byddant yn eu defnyddio.

Mae data cyfredol Hwb Data’r Trydydd Sector wedi dyddio ac wedi ei gyfyngu i’r data sydd ar gael ar Gofrestr Elusennau’r Comisiwn Elusennau’n unig. Mae CGGC yn amcangyfrif mai dim ond tua chwarter o’r 32,000 o sefydliadau sector gwirfoddol yng Nghymru sydd wedi cofrestru, ac felly wedi eu cynrychioli ar Gofrestr y Comisiwn.

Helpwch ni, os gwelwch yn dda, gyda’n gwaith ymchwil i fapio’r sector a datblygu gwell dealltwriaeth o gynhyrchu incwm trydydd sector yng Nghymru.

http://ow.ly/ZzIH50ES5eJ – Welsh

http://ow.ly/9EBa50ES5eK – English

Dysgwch fwy am pam ein bod yn cynnal yr arolwg hwn Yma.  https://bit.ly/3gnfiNP

Dyddiad cau 21ain Mehefin 2021