News

Ymchwil ar ran CGGC i Safon Sicrhau Ansawdd posibl ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Rydym wedi ein comisiynu gan CGGC i archwilio’r achos busnes dros ddatblygu safon neu fframwaith ansawdd ar gyfer y sector elusennol a gwirfoddol yng Nghymru.

Rydym am siarad gyda sefydliadau gwirfoddol Cymreig am Farciau Safon – os ydych yn perthyn i un o’r tri chategori canlynol, byddem yn falch iawn i glywed gennych: 

  1. Sefydliadau sydd wedi ennill bathodyn PQASSO / Trusted Charity ac sy’n dal i feddu arno
  2. Sefydliadau sydd wedi ennill bathodyn PQASSO / Trusted Charity ond sydd heb ei adnewyddu
  3. Sefydliadau sydd wedi gwneud ymholiadau am fathodyn PQASSO / Trusted Charity ond aeth ddim ymlaen â’u cais a rhai sydd heb ddiddordeb yn y cynllun

Cynhelir pob sgwrs yn gwbl gyfrinachol ac ni fyddant yn para mwy nag 20 munud.

Os hoffech gyfrannu at ein hymchwil, cysylltwch gyda Sharon trwy’r cyfeiriad e-bost isod

[email protected]