News

Mae Clwb Ifor Bach Yn Edrych Am Ymddiriedolwyr Newydd.

Wrth i’r diwydiant cerddoriaeth ddechrau adfer yn dilyn y pandemig, mae Clwb Ifor Bach yn falch o fod yn parhau â’i drosglwyddiad o fod yn Gwmni Buddiannau Cymunedol i elusen. Felly, rydyn ni’n dymuno penodi Bwrdd o Ymddiriedolwyr i arwain y sefydliad yn ystod y cyfnod heriol yma. Bydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am –

Clwb Ifor Bach – safle cerddoriaeth fyw eiconig Cymru, a fydd yn cael estyniad gwerth £5 miliwn yn y blynyddoedd nesaf.

Clwb Music – ein brand newydd sy’n ehangu ein gwaith i gynnwys recordio, cyhoeddi, teithio ac addysg.

Ceisiadau’n cau – Dydd Llun 10 Ionawr 2022

Byddwn yn croesawu ac yn ystyried ceisiadau gan bawb sydd â’r sgiliau, y gallu a’r diddordeb i gyflawni’r rolau yma, ond rydyn ni’n croesawu ceisiadau yn arbennig gan unigolion o sectorau o’r gymuned a gaiff eu tangynrychioli yn draddodiadol mewn rolau arwain a llywodraethu mewn sefydliadau diwylliannol. Mae’r rhain yn cynnwys –

  • Pobl â nodweddion gwarchodedig, yn arbennig menywod, pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig, pobl sy’n arddel hunaniaeth draws/anneuaidd, a phobl ag anableddau
  • Artistiaid a gweithwyr creadigol ehangach sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth fyw
  • Y rhai sy’n cynrychioli cynulleidfa sefydledig Clwb

Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth ag ymgeisio yma.